{en}
Introduction
Estyn is the education and training inspectorate for Wales, and we’re passionate about helping every learner access high-quality education and training. We work closely with providers, offering support, promoting strong accountability, and helping shape a positive future for education across Wales.
Our people are at the centre of our mission. We’re proud to offer a supportive, inclusive, and collaborative workplace where everyone feels valued, respected, and able to grow.
What we’re looking for
We are looking for someone who can turn complex data into clear, actionable insight to support Estyn’s work as an evidence-informed regulator. Working closely with our statisticians and researchers, you will manage, analyse, and visualise data from multiple sources to ensure Estyn’s evidence base is accurate, accessible, and robust. You will help develop dashboards, analytical tools, and data workflows that inform inspection, evaluation, and decision-making, and play a key role in strengthening Estyn’s analytical capability and promoting a consistent, data-driven approach across the organisation. If you’re motivated by public service and interested in strengthening a proactive, intelligence led approach to using data across Estyn, we’d be pleased to hear from you.
By joining us, you’ll become part of a forward-thinking and evolving organisation, one that’s committed to learning, improvement, and the development of its people. You’ll also gain access to opportunities across the wider Civil Service, giving you room to grow and shape your career.
Why work for Estyn
At Estyn, you’ll join a collaborative and inclusive organisation that values professional growth and wellbeing.
Benefits include:
Diversity and inclusion
At Estyn, we’re committed to building a diverse and inclusive workforce where everyone feels valued and supported.
We actively encourage applications from underrepresented groups, including people from ethnic minority backgrounds and disabled people. We’re proud to be a Disability Confident Employer and are happy to provide reasonable adjustments throughout the recruitment process.
We value different perspectives and lived experiences, believing that a diverse team leads to stronger ideas, richer discussions, and better outcomes for learners across Wales.
More information
Full details of working for us, and more information on the role and who we are looking for, can be found here.
Guidance on how to apply can be found here.
You will be prompted to complete an application form during the process, but for ease, please download the form here and upload it at stage 3 of the application.
If you have any questions about the role, please contact [email protected].
{/en} {cy}Cyflwyniad
Estyn yw’r arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru ac rydym yn angerddol am helpu pob dysgwr i fanteisio ar addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel. Rydym yn cydweithio’n agos â darparwyr, gan gynnig cymorth, hybu atebolrwydd cryf a helpu i lunio dyfodol cadarnhaol ar gyfer addysg ledled Cymru.
Mae ein pobl wrth wraidd ein cenhadaeth. Rydym yn falch o gynnig gweithle cefnogol, cynhwysol a chydweithredol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u bod yn gallu tyfu.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu troi data cymhleth yn fewnwelediad clir, y gellir gweithredu arno i gefnogi gwaith Estyn fel rheoleiddiwr sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth. Trwy weithio’n agos â’n hystadegwyr a’n hymchwilwyr, byddwch chi’n rheoli, yn dadansoddi ac yn delweddu data o ffynonellau lluosog i sicrhau bod sail dystiolaeth Estyn yn gywir, yn hygyrch ac yn gadarn. Byddwch yn helpu datblygu dangosfyrddau, offer dadansoddol, a llifau gwaith data sy’n llywio arolygu, gwerthuso a gwneud penderfyniadau, ac yn chwarae rôl allweddol mewn cryfhau galluogrwydd dadansoddol Estyn a hyrwyddo dull cyson, wedi’i yrru gan ddata ar draws y sefydliad. Os ydych chi’n cael eich cymell gan wasanaeth cyhoeddus a bod gennych ddiddordeb mewn cryfhau ymagwedd ragweithiol wedi’i harwain gan ddeallusrwydd, at ddefnyddio data ar draws Estyn, byddem yn falch o glywed gennych chi.
Trwy ymuno â ni, byddwch yn dod yn rhan o sefydliad blaengar sy’n esblygu, un sydd wedi ymrwymo i ddysgu, gwella a datblygu ei bobl. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd ar draws y Gwasanaeth Sifil ehangach, gan gynnig lle i chi dyfu a llunio eich gyrfa.
Pam gweithio i Estyn
Yn Estyn, byddwch yn ymuno â sefydliad cydweithredol a chynhwysol sy’n gwerthfawrogi twf proffesiynol a lles.
Mae’r buddion yn cynnwys:
Amrywiaeth a chynhwysiant
Yn Estyn, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu amrywiol a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Rydym yn annog yn weithredol geisiadau gan grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol a phobl anabl. Rydym yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a gallwn ddarparu addasiadau rhesymol ar hyd y broses recriwtio.
Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau a phrofiadau bywyd gwahanol, gan gredu bod tîm amrywiol yn arwain at syniadau cryfach, trafodaethau cyfoethocach a deilliannau gwell i ddysgwyr ledled Cymru.
Mwy o wybodaeth
Mae manylion llawn am weithio i ni a gwybodaeth am y rôl a phwy rydym yn chwilio amdanynt i’w gweld yma.
Mae arweiniad ar sut i wneud cais i’w weld yma.
Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais yn ystod y broses ond, er hwylustod, lawrlwythwch y ffurflen yma a’i lanlwytho yn ystod cam 3 y cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â [email protected].
{/cy}